Memorandwm ar yr Economi a Thrafnidiaeth

Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig – 16 Ionawr 2019


 

1.0         Cyflwyniad

 

Mae'r papur hwn yn darparu gwybodaeth am gynigion y portffolio Economi a Thrafnidiaeth fel y'u hamlinellir yng Nghyllideb Ddrafft 2020-21 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2019, i’r graddau y maent yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

2.0         Cyd-destun Strategol

 

Mae cynllun gwario 2020-21 wedi cael ei baratoi i helpu i gyflawni ein hamcanion strategol i greu Cymru fwy llewyrchus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal. Mae'n cefnogi rhaglenni, camau gweithredu ac ymyriadau a gynlluniwyd i godi lefelau cyfoeth a llesiant, gan leihau anghydraddoldeb yn y naill a'r llall.

 

Mae cynllun 2020-21 yn cyd-fynd â Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan bennu ein polisi, ein darpariaeth a'n newidiadau ymddygiadol i gefnogi ac adlewyrchu ein hamcanion llesiant. Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn gydweithredol ac wedi'i strwythuro ar sail saith o'r deuddeg amcan llesiant, ac un ohonynt yw sbarduno twf cynaliadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cydnabod bod economi gynaliadwy a chynhwysol sy'n tyfu yn hanfodol ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, iachach, cydnerth a mwy cyfartal. Mae'r cynllun yn cyflwyno newid polisi mawr ar draws meysydd darpariaeth i'r agenda carbon isel, er mwyn annog datgarboneiddio a helpu busnesau i wella eu defnydd effeithlon o adnoddau.

 

Mae'r contract economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cael buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon, ynghyd â thwf cynhwysol, gwaith teg a hybu iechyd a dysgu yn y gweithle.

 

Hefyd, mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi sut y byddwn yn sefydlu partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn sicrhau bod defnyddwyr, datblygwyr a gweithgynhyrchwyr cerbydau awtomataidd a cherbydau trydan yn gallu manteisio ar y technolegau trawsnewidiol hyn, lleihau allyriadau carbon a sicrhau difidend economaidd i Gymru yn y chwyldro modurol.

 

Mae Brexit a'r risgiau yn ei sgil i fusnesau a'r economi wedi bod yn ystyriaeth barhaus wrth gynllunio ein cyllideb. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym wedi ystyried egwyddor cynaliadwyedd yn ein cynlluniau gwario. Mae cronfeydd cyfalaf Banc Datblygu Cymru gwerth £47m ac mae cyfanswm o £71.488m ar gyfer twf cynhwysol a diogelu economi Cymru at y dyfodol yn ein helpu i liniaru, cyn belled ag y bo modd, yr heriau sy'n codi o unrhyw ganlyniad Brexit, a chanlyniad ‘dim cytundeb’ posibl yn benodol.

 

Cyhoeddwyd Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel ym mis Mawrth ac mae'n cynnwys 100 o bolisïau a chynigion a fydd yn cyflwyno’r gyllideb garbon gyntaf yn 2016-2020 a tharged interim 2020. Bydd y polisïau hyn naill ai'n lleihau allyriadau'n uniongyrchol neu'n cyfrannu at y broses o newid i economi carbon isel a fydd yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau deddfwriaethol ac yn ein rhoi ni ar ben ffordd yn ein llwybr lleihau allyriadau. Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac yn dilyn y datganiad rydym wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC) i gynyddu targed 2050 Cymru ar gyfer lleihau allyriadau i 95%, a byddwn yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar hyn y flwyddyn nesaf. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi ein huchelgais i weithio gydag UKCCC a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu targed sero net mwy uchelgeisiol.

 

Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn cynnig her ddifrifol a chyfleoedd mawr. Bydd y broses o barhau i fuddsoddi er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn yn cyfrannu at nodau llesiant Cymru lewyrchus, Cymru carbon isel, Cymru iach, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang a'n hamcan llesiant o gysylltu cymunedau. Bydd lleihau allyriadau trwy newid dulliau teithio yn helpu i wireddu ein huchelgais ar gyfer targed Sero Net erbyn 2050 a lleihau llygredd aer, yn ogystal â chyfrannu at ein hamcan llesiant o gysylltu cymunedau, cefnogi pobl a busnesau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol.

 

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol: Diweddariad 2018 yn asesu’r broses o gyflawni ymrwymiadau allweddol a gefnogir gan £1.5 biliwn dros 2018-19 a 2019-20. Mae'n amlinellu'r buddsoddiad sylweddol i fynd i'r afael â'r targedau uchelgeisiol: y fasnachfraint rheilffyrdd gan gynnwys buddsoddiad gwerth bron i £5 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru, diwygio deddfwriaethol mawr o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a datblygu system drafnidiaeth aml-ddull ac integredig ledled Cymru.

 

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru Cymru'n Un: Cysylltu'r Genedl yn nodi ein blaenoriaethau strategol a'n canlyniadau dymunol, gan sicrhau cysylltiad â'r blaenoriaethau ehangach yn ogystal â chynlluniau ar lefel awdurdodau lleol. Bydd y strategaeth drafnidiaeth newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020, yn cynnwys ffocws allweddol ar symud i ddulliau teithio carbon is er mwyn cyrraedd ein targedau datgarboneiddio a lleihau'r nifer cynyddol o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sydd â chysylltiad cryf ag allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

 

Bydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cwmpasu pob dull o drafnidiaeth, a bydd yn cael ei gosod yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol a'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth, bydd yn cynnwys trafnidiaeth gynaliadwy wrth wneud penderfyniadau, arfarnu trafnidiaeth (drwy adolygiad o'n Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) a phenderfyniadau buddsoddi er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn teithio mewn ffordd sy'n rhoi blaenoriaeth i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus. Hefyd, mae gan Gerbydau Allyriadau Isel Iawn ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae prinder gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Mae her hirdymor datgarboneiddio yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar ein hanghenion sgiliau yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn trawsnewid ein gweithlu ac yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o dwf glân byd-eang. Mae'n bosibl y bydd yr anghenion sgiliau a hyfforddiant ar gyfer economi carbon isel yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio ar wella sgiliau ac ailhyfforddi pobl ym meysydd technolegau, diwydiannau, crefftau a dulliau gweithredu newydd. Hefyd, mae cyflogadwyedd a sgiliau yn un o themâu trawsbynciol allweddol Ffyniant i Bawb.

 

3.0         Trosolwg o'r Gyllideb


Mae Cyllideb Ddrafft 2020-21 yn darparu cynllun gwario un flwyddyn ar gyfer refeniw a chyfalaf. Mae'r tabl isod yn darparu trosolwg o'r gwariant refeniw a chyfalaf arfaethedig ar gyfer y portffolio Economi a Thrafnidiaeth.

 

Crynodeb


Cyllideb Atodol Gyntaf

2019-20

£’000

Addasiadau Sylfaenol

£’000

Llinell Sylfaen Adnoddau/

2020-21 Cynlluniau Cyfalaf ar gyfer 2019-20 Cyllideb Derfynol

£’000

Newidiadau

£’000


Cyllideb Ddrafft 2020-2021

Cynlluniau Newydd

£’000

Adnoddau

709,770

(7,391)

702,379

30,081

732,460

Cyfalaf

581,167

-

609,004

176,722

785,726

CYFANSWM

1,290,937

(7,391)

1,311,383

206,803

1,518,186

AME - Adnoddau

62,437

-

62,437

(32,912)

29,525

Cyfanswm - AME

62,437

-

62,437

(32,912)

29,525

CYFANSWM CYFFREDINOL

1,353,374

(7,391)

1,373,820

173,891

1,547,711

 

Mae'r cynlluniau gwario ar gyfer 2020-21 yn cynnwys buddsoddi mewn rhaglenni carbon isel ac yn sicrhau ein bod yn cynnwys datgarboneiddio mewn datblygiadau seilwaith hirdymor. Hefyd, rydym yn cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol er mwyn llywio ein blaenoriaethau.

 

Mae buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith a mesurau ataliol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau'r gostyngiadau carbon sydd eu hangen.

 

3.1   Refeniw

 

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau allyriadau carbon trafnidiaeth yw disodli teithio yn y car â defnyddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus bresennol a theithio llesol. Gellir priodoli'r rhan fwyaf o wariant ar raglenni a pholisïau Trafnidiaeth i wariant ataliol sylfaenol sy'n hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio ac felly'n lleihau effeithiau amgylcheddol a chynyddu lefelau gweithgarwch sy'n cefnogi canlyniadau iechyd. Mae gwariant refeniw ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cynaliadwy i gyfrif am 75% o gyfanswm y gyllideb refeniw ar gyfer trafnidiaeth (ac eithrio cyllid nad yw’n arian parod). Mae hyn yn cynnwys 18% ar gyfer Camau Gweithredu Teithio Llesol a 57% ar gyfer cymorth i’r Rheilffyrdd.

 

Mae gan gynigion trafnidiaeth integredig Metro’r De a Metro’r Gogledd y potensial i weddnewid y sefyllfa o safbwynt datgarboneiddio a budd economaidd. Yn 2020-21, darperircyllid refeniw gwerth £185.4 m (36% o'r gyllideb, ac eithrio cyllid nad yw’n arian parod) ar gyfer masnachfraint y rheilffyrdd a gwelliannau i wasanaethau, sy'n cynnwys dyraniad ychwanegol o £15m fel rhan o'r gyllideb ddrafft hon. Mae'r contract rheilffyrdd newydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon wrth hyrwyddo newid mewn dulliau teithio.

 

Wrth ddatblygu'r ymrwymiadau yn Ffyniant i Bawb, rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau bws er mwyn hyrwyddo newid o geir i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cynlluniau'n darparu £94m ar gyfer teithio mewn bysiau (refeniw a chyfalaf) ar gyfer y grant cymorth bysiau, tocynnau teithio rhatach a'r cynllun teithio rhatach i bobl ifanc. Mae teithio fforddiadwy yn bwysig i gyflawni ein blaenoriaethau trawsbynciol ac yn hanfodol ar gyfer cydlyniant cymdeithasol.

 

Mae ein cynlluniau'n cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda busnesau i hyrwyddo datgarboneiddio a lleihau olion troed carbon. Mae cyllideb refeniw Busnes Cymru gwerth £5.6m yn cefnogi arferion busnes cyfrifol ac yn darparu cyngor ar effeithlonrwydd adnoddau ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau trwy Busnes Cymru, yn ogystal â chyngor ar gynlluniau gweithredu amgylcheddol, gweithdai a gweithgareddau rhwydweithio. Mae llyfr braslunio ac adnodd rhyngweithiol wedi'u datblygu i hyrwyddo'r agenda garbon ymhellach.

 

Hefyd, mae Busnes Cymru yn cefnogi'r Addewid Twf Gwyrdd fel bod busnesau yn gallu dangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas ac ymuno â chymuned sy’n tyfu o sefydliadau blaengar. Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn rhan o'r cymorth cynaliadwyedd arbenigol, ac mae ar gael i holl Fusnesau Bach a Chanolig Cymru waeth beth yw sector eu diwydiant. Trwy ymrwymo i'r Addewid, gofynnir i bob cwmni wneud ymrwymiad i un cam gweithredu neu fwy er mwyn eu helpu i leihau effaith neu sicrhau perfformiad cynaliadwy.

 

Mae'r gyllideb Datblygu Economaidd Busnes a Rhanbarthol gwerth £6.8m yn helpu i sbarduno twf cynaliadwy a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'r newid i economi carbon isel yn creu heriau a chyfleoedd unigryw ar gyfer ynni adnewyddadwy. O safbwynt sut rydym yn cynhyrchu ynni, mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith yr ydym yn buddsoddi ynddo yn helpu i gynhyrchu ynni carbon isel, yn gwella'r modd y caiff ei drawsyrru a'i ddosbarthu ac yn sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol, gan alluogi technolegau a mesuryddion deallus i ddarparu atebion hyblyg.

 

Bydd ein Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd i Gymru yn ail-lunio cymorth cyflogadwyedd ar gyfer pobl sy'n barod i weithio a'r rhai sy’n bellaf o'r farchnad lafur. Mae gweithio, boed am dâl neu'n ddi-dâl, yn dda i'n hiechyd a'n llesiant.

 

Ym mis Mai 2019 lansiwyd Cymru'n Gweithio sy'n cryfhau hygyrchedd er mwyn helpu unigolion i gael cyngor a chymorth proffesiynol a’u cyfeirio at gyfleoedd gwaith. Hefyd, nod ein hymyriadau yw manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth wrth symud tuag at economi carbon isel o safbwynt sgiliau uchel a mynediad i'r farchnad swyddi. Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cynghori Cymru’n Gweithio, ac mae wedi ymrwymo i gefnogi agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy a'r amgylchedd.

 

Wrth gyflwyno ein rhaglen gyflogadwyedd newydd, Cymorth Swyddi Cymru, a fydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Ebrill 2020, mae’n rhaid i gontractwyr fod yn ymwybodol o Becyn Cymorth Cynllun Gweithredu'r Cod Eco i gefnogi camau gweithredu presennol er mwyn diogelu'r amgylchedd. Anogir contractwyr i ystyried mabwysiadu’r pecyn cymorth hwn.

 

Bydd rhaglenni cyflogadwyedd yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y diwydiant rheoli gwastraff ac ailgylchu. Byddant yn helpu i lenwi swyddi allweddol wrth gasglu, trosglwyddo, trin a gwaredu gwastraff ac adnoddau. Hefyd, bydd yn canolbwyntio ar swyddi sy'n cefnogi dulliau cynhyrchu ynni glân mewn amrywiaeth o sectorau diwydiant.

 

Rydym yn parhau i ariannu Prosiect Peilot Prentisiaethau Coedwigaethsy'n ceisio defnyddio sgiliau rheoli coedwigaeth i ddatblygu ac addasu arferion coedwigaeth er mwyn helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd a chynyddu sgiliau i ysgogi adnoddau pren cynaliadwy.

 

3.2   Cyfalaf

 

Mae'r buddsoddiad ychwanegol yn 2020-21 yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau cyfalaf sydd ar gael i gefnogi Cymru wyrddach, ymateb i'r argyfwng hinsawdd a sicrhau Cymru Carbon Isel.

 

Newid i Gerbydau Trydan – £29m(£21.5m Craidd a £7.5m Cyfalaf FT)

 

Mae buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith gwefru cerbydau trydan yn ceisio sicrhau newid i fflyd trafnidiaeth gyhoeddus dim allyriadau erbyn 2028 ac ymyrryd lle nad oes buddsoddiad masnachol. Mae hyn yn cynnig manteision ychwanegol i fuddsoddiad gan y sector preifat. Mae cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel yn gwneud cyfraniad pwysig at leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer, ac mae’n gydnaws â'n dull o sicrhau bod datgarboneiddio trafnidiaeth yn hygyrch i bawb, nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio car trydan.

 

Lansiodd yr Adran Drafnidiaeth £48m ar gyfer cynllun grant i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus wyrddach ledled Cymru a Lloegr. Yn dilyn cynlluniau peilot y llynedd, mae gweithredwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd a Chaerffili wedi derbyn gwerth £8.5m o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer bysiau trydan. Bydd gan gwmni Bws Caerdydd fflyd o 36 o fysiau, mae cwmni Bws Casnewydd wedi archebu 15, a chyflwynwyd y cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, tra bydd gan gwmni Stagecoach yn y De 16 ar gyfer ei ddepo yng Nghaerffili. Bydd gweithredu'r bysiau hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am faterion cyflawni ymarferol a chanfyddiadau'r cyhoedd yn ogystal â lleihau llygredd aer.

 

Ffyrdd Cydnerth - £25m

 

Mae dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i annog pobl i newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy. Ni all teithio mewn bws gystadlu â theithio mewn car heb fuddsoddi mewn coridorau bysiau o ansawdd uchel sydd â lonydd a hidlwyr bysiau pwrpasol, cysgodfeydd da a darpariaeth gwybodaeth mewn amser real. Mae elfen teithio llesol ar ddechrau ac ar ddiwedd pob taith trafnidiaeth gyhoeddus: y daith gerdded neu feicio i'r arhosfan neu'r orsaf ac oddi yno i'r gyrchfan derfynol. Felly, mae integreiddio di-dor rhwng teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn caniatáu i bobl gwblhau eu taith gyfan yn gyflym, yn ddiogel ac yn gyfleus.

 

Mae tarfu ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd digwyddiadau tywydd garw, sy'n dod yn fwyfwy aml, yn rhoi baich ar fywydau unigolion, ar fusnesau, ar wasanaethau cyhoeddus ac ar yr economi ehangach. Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi gwelliannau i briffyrdd mewn lleoliadau ar rwydweithiau bysiau craidd a phriffyrdd strategol sy'n wynebu risg oherwydd llifogydd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd eraill. Yn ogystal, bydd yn targedu seilwaith cerdded a seiclo sydd mewn perygl oherwydd digwyddiadau tywydd garw.

 

Metro Gogledd Cymru - £20m

 

Mae Metro Gogledd Cymru yn flaenoriaeth sydd wedi’i nodi yn Ffyniant i Bawb fel cyfrannwr allweddol at ddarparu seilwaith modern a chysylltiedig. Bydd y prosiectau'n hwyluso newid o'r car preifat, ac yn cyflawni ein hamcanion i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon. Roedd y weledigaeth Symud Gogledd Cymru Ymlaen yn amlygu buddsoddi ym mhob dull teithio er mwyn cyflawni amcanion cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd a sicrhau twf economaidd ledled y Gogledd, gan gysylltu pobl â swyddi a gwasanaethau a busnesau â marchnadoedd.

 

Bydd y buddsoddiad yn sicrhau:

 

·         Llwybrau teithio llesol, fel yn ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy lle byddwn yn cysylltu pob busnes â llwybrau teithio llesol o fewn y Parc ac â'r rhwydwaith yn ehangach ledled Glannau Dyfrdwy ac i Gaer a Chilgwri. Mae'r llwybrau a gafodd eu creu yn ddiweddar yn boblogaidd iawn, nid yn unig ymysg cymudwyr ond ymysg teuluoedd a defnyddwyr hamdden eraill hefyd. Eisoes, mae tua 10,000 o deithiau seiclo bob mis trwy'r Parc, sy'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau cysylltiedig o safon uchel.

 

·         Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus trwy fuddsoddi mewn bysiau newydd sy’n bodloni’r safonau amgylcheddol diweddaraf, a datblygu safleoedd parcio a theithio er mwyn lleihau teithio mewn car.

 

·         Gwasanaethau trên ychwanegol a gorsafoedd newydd a gwella mynediad i'r rhwydwaith rheilffyrdd strategol ar gyfer trigolion a busnesau.

 

·         Gwelliannau i’r priffyrdd er mwyn mynd i'r afael â thagfeydd, gwella ansawdd aer a gwella cyfleoedd ar gyfer cerdded, seiclo a theithio mewn bysiau yn ogystal ag ymdrin â diogelwch ar ffyrdd lleol.

 

Buddsoddi yn y Rheilffyrdd - £391.7m

           

Mae buddsoddi yn y rheilffyrdd yn flaenoriaeth yn y cynlluniau. Yn ogystal â'r cyllid refeniw gwerth £185.4m ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd, y gyllideb gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd yw £206.3m gan gynnwys Metro Gogledd Cymru. Bydd ein huchelgais ar gyfer newid sylfaenol mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod teithwyr yn teithio mewn trenau gwyrddach o'r radd flaenaf sy'n defnyddio cysylltedd digidol y genhedlaeth nesaf. Mae cerbydau allyriadau isel yn flaenoriaeth er mwyn cyflawni ein nod o gael fflyd trafnidiaeth gyhoeddus dim allyriadau erbyn 2028.

 

Bydd ein dull o gynyddu'r newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cherbydau preifat, a hwylusir gan y gwasanaeth rheilffyrdd newydd, yn gwneud cyfraniad mawr at leihau effaith allyriadau nwyon tŷ gwydr a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau carbon yn helpu i wella ansawdd yr aer, tra bydd moderneiddio cyfleusterau mewn gorsafoedd yn annog dewisiadau teithio llesol.

 

Hedfan - £12.405m

 

Rydym wedi darparu £12.405m (arian cyfalaf a refeniw) ar gyfer y sector Hedfan – mae hyn yn cynnwys dyraniad ychwanegol o £4.8m o gyfalaf FT a fydd yn cefnogi gweithrediadau parhaus Maes Awyr Caerdydd ac yn sicrhau bod modd gwneud gwelliannau hanfodol i’r seilwaith.

 

Mae Maes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn hyrwyddo’r broses o leihau allyriadau carbon trwy fesurau gweithredol sydd â'r nod o leihau lefelau llosgi tanwydd pan fydd awyren yn glanio ac yn esgyn, ac mewn symudiadau tacsi o amgylch y maes awyr. Yn ogystal, mae yna fanteision amgylcheddol i hwyluso pobl i hedfan o'u maes awyr lleol yn hytrach na theithio ymhellach ar gyfer yr un daith hedfan.

 

Gweithrediadau Traffyrdd a Chefnffyrdd - £152.6m

 

Mae'r buddsoddiad mewn cynnal a chadw a gweithredu'r rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau sy'n cynnal ac yn gweithredu'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd, gan ddarparu rhwydwaith sefydlog, diogel sy'n golygu bod nwyddau a phobl yn gallu symud ledled Cymru. Bydd yr arian ychwanegol o £15m yn 2020-21 yn ein helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol. Mae £149m ychwanegol yn helpu i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol.

 

Rydym wrthi'n gweithio ar feysydd i leihau allyriadau mewn lleoliadau allweddol ledled y rhwydwaith cefnffyrdd, sydd wedi'u hamlygu fel rhai a allai fod yn fwy na goddefiannau'r UE, yn ogystal â chymhwyso'r elfennau hanfodol ar draws y rhwydwaith. Mae hyn yn cynnwys pecyn o ymyriadau ond mae'n gysylltiedig â'r gofyniad craidd bod amseroedd rhwydwaith dibynadwy a theithiau dibynadwy yn caniatáu dewis ar sail gwybodaeth, gan alluogi defnyddwyr ffyrdd i newid patrymau amser teithiau.

 

Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn deall sut y gallwn wneud y gorau o fanteision cymunedol ac annog ein Hasiantau Cefnffyrdd i ymrwymo i gyfrifoldeb cymdeithasol wrth gyflawni ein cyfrifoldebau.

 

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein hymyriadau wedi'u cynllunio i leihau allyriadau carbon yn ystod prosesau adeiladu, ac allyriadau o gerbydau, yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel y’u cadarnhawyd gan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn y cyswllt hwn, rydym yn hyrwyddo'r defnydd o ddulliau adeiladu arloesol ar sail arferion gorau, gan leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau ar y safle a cheisio helpu i gyflwyno seilwaith i gefnogi'r gwaith o ddarparu cerbydau trydan a CAVs yn ogystal â chraffu ar ein fflyd ein hunain er mwyn sicrhau, lle y bo modd, bod yr ateb mwyaf ecogyfeillgar yn cael ei fabwysiadu (fel y safon Ewropeaidd Ddiweddaraf ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, a hyd yn oed dreialu cerbydau Swyddogion Traffig PHEV).

 

Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol - £14m

 

Bydd yr arian ychwanegol yn diwallu'r angen rhanbarthol a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Eiddo i ddarparu tua 150,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr cyflogaeth modern o ansawdd uchel a fydd yn gallu cefnogi buddsoddi cynhenid a mewnfuddsoddi.

 

Mae'r arian ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar adnewyddu'r stoc adeiladau presennol, a fydd yn cael effaith net gadarnhaol ar fioamrywiaeth o’i gymharu â phrosiectau adeiladu newydd cyfatebol ar dir nad yw wedi'i ddatblygu, sy'n arwain yn anochel at yr angen am gamau lliniaru ychwanegol er mwyn gwrthbwyso unrhyw ganlyniadau i gynefinoedd na ellir eu hosgoi o ganlyniad i ddatblygu caeau gwyrdd.

 

Cynllun Gweithredu ar yr Economi – Busnes a Datblygu Economaidd Rhanbarthol - £25.9m

 

Mae datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd yn golofnau allweddol y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan helpu i greu gwaith teg sy’n talu’n dda a swyddi cynaliadwy ledled Cymru. Mae dyraniad ychwanegol o £25.9m, gan gynnwys £5m cyfalaf FT ar gyfer y Gronfa Ad-daladwy ar gyfer BBaChau, wedi'i ddarparu ar gyfer Cronfa Dyfodol yr Economi. Rydym yn disgwyl y bydd pob cais am gyllid yn bodloni o leiaf un o bump "Galwad am Weithredu" gan gynnwys un sy'n ymwneud â Datgarboneiddio.

 

Mae Cronfa Dyfodol yr Economi yn cydgrynhoi nifer o gynlluniau cyllid busnes presennol, gan gynnwys Cynllun Diogelu'r Amgylchedd. Yn ystod y cyfnod ers lansio Cronfa Dyfodol yr Economi, cafwyd tri chynnig o gymorth gwerth tua £13m sy’n derbyn datgarboneiddio fel y prif Alwad am Weithredu. Hefyd, bydd llawer o fuddsoddiadau yn cyfrannu at ddatgarboneiddio gan fod cynaliadwyedd yn ystyriaeth ganolog ar gyfer cyllid o bob math.

 

Y Cymoedd Technoleg - £10m

 

Nod y Cymoedd Technoleg yw diogelu'r economi at y dyfodol trwy fanteisio ar y cyfleoedd sy'n deillio o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, trwy hyrwyddo’r broses o fabwysiadu technolegau digidol newydd sy'n cefnogi diwydiannau arloesol, gan gynnwys y sector modurol. Bydd dyrannu £10m (refeniw a chyfalaf) yn 2020-21 yn cyfrannu at sicrhau datblygu economaidd rhanbarthol, gan greu diwydiannau'r dyfodol ar sail ysbryd y Contract Economaidd. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad £100m dros 10 mlynedd i greu o leiaf 1,500 o swyddi cynaliadwy yn agosach at gartref ledled y Cymoedd Technoleg, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Glynebwy ac ardal ehangach Blaenau Gwent.

 

Tasglu'r Cymoedd - £19.5m

 

Cefnogir Ein Cymoedd, Ein Dyfodol gan gyllid cyfalaf gwerth £32m ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019-20 a 2020-21, gan gynnwys £7m ar gyfer Parciau Rhanbarthol y Cymoedd. Mae'r fenter hon eisoes yn dod â phartneriaid o bob rhan o'r Cymoedd at ei gilydd fel fforwm i alluogi a sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol. Bydd hyn yn cynnwys darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel ar gyfer gwella iechyd a llesiant, helpu i ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd trwy fanteisio ar seilwaith gwyrdd a gwella cysylltedd bioamrywiaeth a chynefinoedd.

 

Mae'r ddarpariaeth drawsbynciol yn canolbwyntio ar saith blaenoriaeth sydd hefyd yn cynnwys trafnidiaeth, tai a'r economi sylfaenol. Darperir diweddariad ar y ddarpariaeth yn y ddogfen Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: cynnydd diweddaraf Medi 2019.

 

4.0         Argyfwng Hinsawdd

 

Mae'r datganiad argyfwng hinsawdd yn anfon neges glir na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r broses o ymadael â’r UE dynnu ein sylw oddi ar her y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.

 

Mae Cymru Carbon Isel yn dangos lle mae angen gweithredu ar draws pob sector allyriadau a chamau gweithredu galluogi. Mae'r newid i economi carbon isel yn dod â chyfleoedd o safbwynt twf glân, swyddi o ansawdd a manteision marchnadoedd byd-eang, yn ogystal â manteision ehangach fel mannau gwell i fyw a gweithio, aer a dŵr glân, ac iechyd gwell.

 

Bydd y Strategaeth Drafnidiaeth wedi'i diweddaru (sydd i’w chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020) yn cynnwys ffocws allweddol ar symud i ddulliau trafnidiaeth carbon is er mwyn cyrraedd ein targedau datgarboneiddio a lleihau'r nifer cynyddol o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sydd â chysylltiad cryf ag allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Fel rhan o'r gyllideb ddrafft hon rydym wedi darparu cyllid ychwanegol – amlinellir rhai enghreifftiau yn adran 4 uchod gan gynnwys cymorth ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel, Teithio Cynaliadwy Cydnerth, Metro Gogledd Cymru a’r Fasnachfraint Rheilffyrdd.

 

Bydd cerdded a seiclo yn dod yn gyffredin i fwy o bobl, gan wella iechyd a diogelwch y genedl. Ein nod yw sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn lân ac yn effeithlon, gan ysgogi diwydiannau lleol. Yn y cyswllt hwn, rydym wedi darparu cyfanswm o £219m ar gyfer Teithio Cynaliadwy fel rhan o'r gyllideb ddrafft hon.

 

Mae cyllid ychwanegol cyfalaf FT gwerth £18.4m ar gyfer Cartrefi Tirion yn cefnogi datblygiadau preswyl, ac mae dau ohonynt yn safleoedd tir llwyd. Mae gwaith adfer helaeth wedi'i gwblhau, gan gynnwys gwaredu hydrocarbonau, asbestos a chlymog. Bydd tair uned ddi-garbon beilot yn cael eu darparu yn y Felin, Caerdydd, a bydd 225 o unedau di-garbon yn cael eu darparu ym Mharc Eirin. Mae gan y cartrefi ynni cadarnhaol newydd hyn y potensial i fod yn allforiwr trydan net. O ganlyniad, bydd allyriadau carbon y cartrefi yn agos at sero yn ystod eu hoes weithredol. Parc Eirin fydd y prosiect tai mwyaf cadarnhaol o ran ynni yn y DU, a bydd y data a gesglir fel rhan o'r prosiect yn dangos i fuddsoddwyr hirdymor bod modd cefnogi technoleg ddi-garbon trwy ddefnyddio cyllid preifat.

 

Prif golofnau’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yw datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, sy’n helpu i greu swyddi cynaliadwy â chyflogau da ledled Cymru. Rydym wedi buddsoddi £25.862m yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Dyfodol yr Economi a’r Gronfa Ad-daladwy ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig. Rydym yn disgwyl y bydd pob cais am gyllid yn bodloni o leiaf un o bump "Galwad am Weithredu" sy'n cynnwys galwad yn ymwneud â datgarboneiddio. Ar hyn o bryd, mae dewisiadau ariannu ar gael i gefnogi cwmnïau bach a mawr (trwy'r Ymddiriedolaeth Garbon a Chynllun Diogelu'r Amgylchedd) ond nid oes cymorth effeithlonrwydd ynni ar gael i gwmnïau maint canolig.

 

5.0         Gwariant Ataliol

 

Gellir priodoli'r rhan fwyaf o wariant ar Drafnidiaeth ar gyfer rhaglenni a pholisïau i wariant ataliol. Mae teithio llesol yn hyrwyddo dulliau trafnidiaeth cynaliadwy ac felly’n lleihau effeithiau amgylcheddol ac yn cynyddu lefelau gweithgarwch sy'n cefnogi canlyniadau iechyd. Mae teithio rhatach ar fysiau yn bwysig iawn mewn ardaloedd gwledig ac yn hanfodol ar gyfer cydlyniant a llesiant cymdeithasol.

 

Bydd y cynlluniau trafnidiaeth integredig yn arwain at newid sylfaenol. Mae Metro De Cymru yn rhan annatod o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd hyn yn gatalydd ar gyfer y gwaith adfywio ehangach, gan helpu i lywio'r seilwaith economaidd a chymdeithasol rhanbarthol, symudedd cymdeithasol a chyfle cyfartal ar gyfer rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig. Felly, wrth sicrhau canlyniadau gwell, mae mesurau gwariant ataliol yn bwysig yn yr hirdymor.

 

Mae ein buddsoddiad mewn diogelwch ar y ffyrdd, cynnal a chadw ffyrdd a gwella’r broses o reoli’r rhwydwaith yn helpu i atal problemau a damweiniau mwy sylweddol dros yr hirdymor. Mae Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru yn nodi dull wedi'i dargedu o ddarparu cyllid ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd a buddsoddiad ledled Cymru, ac mae'r cyllid wedi'i symleiddio i helpu i gyflawni targedau heriol ar gyfer lleihau nifer y rhai sy’n cael anaf. Ei nod yw lleihau, ac i’r graddau posibl atal y baich economaidd a chymdeithasol enfawr sy’n deillio o bob anaf.

 

Rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau cyfalaf sy'n targedu llwybrau neu gymunedau lle mae yna dystiolaeth o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy'n arwain at bobl yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol, neu le mae niferoedd sylweddol o wrthdrawiadau yn arwain at fân anafiadau. Gall y gwaith gynnwys gwella cyffyrdd, mannau croesi ar gyfer cerddwyr a seiclwyr a llwybrau troed/seiclo, arwynebau ffrithiant uchel, rheolaethau signalau, gwell arwyddion a gosod camerâu cyflymder. 

 

Mae mentrau refeniw yn cael eu hariannu os ydynt yn targedu grwpiau o bobl risg uchel ac agored i niwed, ac maent yn cynnwys hyfforddiant seiclo, hyfforddiant cerdded i blant, hyfforddiant ac addysg beiciau modur, hyfforddiant ar gyfer gyrwyr hŷn a hyfforddiant gyrru ar gyfer pobl ifanc.

 

Bydd ein Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd i Gymru yn ail-lunio cymorth cyflogadwyedd ar gyfer pobl sy'n barod am swydd a'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur. Ein nod yw rhoi'r cyfle i bobl gael y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i gael gafael ar swyddi da a'u cadw. Mae lefelau sgiliau, a sgiliau uwch yn benodol, hefyd yn bwysig i ysgogi cynhyrchiant. Mae lefelau cyffredinol cymwysterau oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi bod yn codi, fel y gwelir yn y dangosyddion llesiant cenedlaethol. Ym mis Mai 2019 lansiwyd Cymru'n Gweithio sy'n cryfhau hygyrchedd i unigolion gael cyngor a chymorth proffesiynol a chael eu cyfeirio at gyfleoedd gwaith.Hefyd, nod ein hymyriadau yw manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth wrth symud tuag at economi carbon isel o ran sgiliau uchel ac fel mynediad i'r farchnad swyddi.

 

6.0         Llunio Polisïau sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth

 

Mae ein penderfyniadau ariannol yn seiliedig ar dystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, fel gwaith ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi, ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwerthusiadau polisi blaenorol ac ystadegau. Ariennir sefydliadau fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Mae'r Ganolfan yn cydweithio ag arbenigwyr polisi blaenllaw i roi tystiolaeth o ansawdd uchel a chyngor annibynnol i Weinidogion Cymru a swyddogion er mwyn gwella penderfyniadau a chanlyniadau polisi.

 

Mae'r Ganolfan a'i rhagflaenydd, y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) wedi cyhoeddi sawl adroddiad yn ymwneud â phortffolio'r Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys Strategaethau a Thechnolegau Ansawdd Aer a Thlodi Gwledig yng Nghymru.

 

Sefydlwyd Dirnad Economi Cymru (EIW) yn sgil cydweithio rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn darparu adnodd unigryw i Gymru. Bydd EIW yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau polisi, gan alluogi Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i herio ac addasu'r cymorth sy’n cael ei gynnig i BBaChau yng Nghymru.

 

Caiff tystiolaeth a chwmpas yr arfarniad a gynhelir wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni eu hasesu ar sail risg, maint a graddfa, y sylfaen dystiolaeth bresennol a ffactorau eraill. Mae astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cwblhau cyn dechrau prosiectau allweddol er mwyn asesu addasrwydd i gyflawni ein hamcanion, tra bod adolygiadau porth ar gyfer prosiectau mawr yn cael eu cwblhau er mwyn herio pob agwedd ar achos busnes gan gynnwys yr asesiad gwerth am arian hanfodol. Er bod yr adolygiadau yn berthnasol i brosiect penodol, maent yn helpu i ddatblygu ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn ystyried prosiectau eraill. Gall adroddiadau archwilio mewnol ac allanol fod yn ddefnyddiol mewn ffordd debyg.

 

Rydym yn ariannu Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru, trwy broses tendro cystadleuol, i ddarparu gwasanaethau ymgysylltu rhwng Partneriaid Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod barn rhai o'n rhanddeiliaid allweddol yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu a chyflwyno polisïau.

 

Rydym wedi symleiddio’r trefniadau cynghori, gan ddisodli ystod o gyrff cynghori ag un Bwrdd Cynghori Gweinidogol sy'n darparu cyngor rheolaidd, creadigol o ansawdd uchel i mi er mwyn helpu i wella datblygu economaidd yng Nghymru yn unol â'r blaenoriaethau a'r weledigaeth a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

 

O safbwynt trafnidiaeth, rydym yn ariannu Defnyddwyr Bysiau Cymru i gynrychioli buddiannau teithwyr a helpu i ddatblygu polisi. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ymgynghoriadau polisi, monitro gwasanaethau bysiau, delio â chwynion a chynnal cymorthfeydd bws ledled Cymru. Hefyd, rydym yn ariannu'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i helpu i ddatblygu a gweithredu atebion trafnidiaeth gymunedol lle y gall atebion bysiau confensiynol fod yn ddiangen neu'n rhy anhyblyg i fodloni gofynion teithwyr.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gwaith Comisiynydd Traffig Cymru wrth reoleiddio'r rhwydweithiau cludo nwyddau a bysiau yng Nghymru, ac wrth hyrwyddo safonau yn y ddau sector a fydd yn helpu i atal yr angen am ei ymyriad. Rydym yn darparu swyddfeydd penodedig yng Nghaerdydd er mwyn galluogi'r Comisiynydd i weithio yng Nghymru ac i Gymru, a bydd y cyfleusterau yn cael eu hymestyn i'r Gogledd maes o law, ac yna i safle newydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.

 

Rydym wedi creu model trafnidiaeth aml-ddull arloesol ar gyfer y De-ddwyrain. Mae hyn yn golygu bod modd profi a gwella polisïau newydd, fel terfynau cyflymder 20mya, a chynlluniau trafnidiaeth, fel y Metro, er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian a manteisio ar eu heffaith bosibl. Trwy Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi comisiynu’r broses o greu modelau cyfatebol ar gyfer rhanbarth y De-orllewin a'r Canolbarth, ac ar gyfer y Gogledd, er mwyn llywio penderfyniadau trafnidiaeth a seilwaith yn y rhanbarthau hyn.

 

Rydym wedi cymryd camau i wella a diweddaru'r data sy'n llywio’r modelau hyn yn barhaus, gan gynnwys data ffonau symudol sy'n darparu gwybodaeth gynhwysfawr am batrymau teithio, yn ogystal â'r sylfaen dystiolaeth ehangach ar gyfer arfarnu polisi trafnidiaeth gan gynnwys caffael setiau data newydd.

 

Yn ogystal, rydym wedi datblygu cynigion ar gyfer ariannu ymchwil academaidd i feysydd trafnidiaeth amrywiol, a'r cysylltiadau â llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i lywio penderfyniadau ar bolisïau ac ymyriadau a fydd yn cyflawni ein blaenoriaethau.

 

Yn olaf, rydym wedi sefydlu grŵp llywio i ddogfennu, symleiddio a gwella'r ffordd rydym yn monitro ac yn gwerthuso'r cynlluniau trafnidiaeth sy’n cael eu hariannu gennym. Mae hyn yn manteisio ar arbenigedd o bob rhan o Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau y gallwn fanteisio'n llawn ar waith monitro a gwerthuso. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu o effeithiolrwydd ymyriadau, a llywio'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

 

7.0         Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi (EAP) yn gydweithredol ac wedi'i strwythuro ar sail saith o'r deuddeg amcan llesiant: 

 

·         Cefnogi pobl a busnesau i ysgogi ffyniant.

·         Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg.

·         Ysgogi twf cynaliadwy a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

·         Ysgogi uchelgais ac annog dysgu i fyw.

·         Sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir ar gyfer byd sy'n newid.

·         Darparu seilwaith modern a chysylltiedig.

·         Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd.

 

Mae hefyd yn ymgorffori'r pum ffordd o weithio. Mae'r galwadau am weithredu a'r contract economaidd yn herio'r Llywodraeth a busnesau i edrych ar fuddsoddi yn y dyfodol trwy eu cyfraniad at arloesedd ac entrepreneuriaeth, ymchwil a datblygu ac awtomeiddio, allforion a masnach, cyflogaeth a sgiliau o ansawdd uchel, a datgarboneiddio. Dyma rai o'r heriau strategol allweddol y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hwy er mwyn sicrhau twf, nid yn unig heddiw, ond twf sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol er mwyn manteisio ar gyfleoedd yn yr hirdymor. Gyda'i gilydd, mae'r contract economaidd a'r galwadau am weithredu yn hyrwyddo buddsoddiad cyhoeddus â diben cymdeithasol - ysgogi cyfoeth a llesiant a lleihau anghydraddoldeb. Mae tystiolaeth yn dangos mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'r amddiffyniad gorau yn erbyn tlodi i'r rhai sydd mewn perygl. Rydym yn parhau i greu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd trwy fentrau a buddsoddiad wedi'i dargedu ledled Cymru. Mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn hollbwysig i gyflawni ein huchelgeisiau.

 

Yn achos Trafnidiaeth er enghraifft, mae nifer o asesiadau effaith wedi dylanwadu ar y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac maent ar gael yma. Mae'r Cynllun yn nodi ein rhaglen fuddsoddi dros y blynyddoedd nesaf. Daeth yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb i'r casgliad nad oes unrhyw effeithiau negyddol ar grwpiau gwarchodedig ac y bydd cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun yn helpu i leihau unrhyw anfantais i’r grwpiau hyn.

 

Cyn buddsoddi yn yr ymyriadau a nodir yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol, mae cynlluniau'n mynd trwy broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru sy'n nodi'r materion a'r atebion posibl a allai fynd i'r afael â'r rhain. Yna caiff yr atebion eu hasesu yn erbyn y nodau Llesiant cyn dewis ateb a ffefrir.

 

8.0         Asesiad Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg a Hawliau Plant

 

Wrth lunio ein cynlluniau, ystyriwyd y tueddiadau demograffig allweddol canlynol o'r adroddiad diweddar, a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol 2018 sy'n awgrymu’r canlynol:

 

·         Rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 0.6% i 3.16 miliwn erbyn 2028, ond yn gostwng 0.9% i 3.11 miliwn erbyn 2043. Dyma'r tro cyntaf i ostyngiad hirdymor yn y boblogaeth gael ei ddarogan ar gyfer Cymru yn ystod y cyfnod diweddar.

·         Rhagwelir y bydd nifer y plant o dan 16 oed yn gostwng 6.8% i 524,300 rhwng 2018 a 2028.

·         Rhagwelir y bydd nifer y bobl 16-64 oed yn gostwng 1.7% i 1,890,400 rhwng 2018 a 2028.

·         Rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd a 75 a throsodd yn cynyddu 13.8% i 742,200 a 29.0% i 377,300 yn y drefn honno rhwng 2018 a 2028.

 

Yn ôl Tlodi Incwm Cymharol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben 2018:

 

·         Roedd 24% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18. Mae'r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog (rhwng 22% a 24%) dros y 15 cyfnod amser diwethaf. Mae’r ganran o 24% yr un fath â'r llynedd.

 

·         Plant oedd y grŵp oedran a oedd yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18 (29%) ac mae hyn wedi bod yn wir ers tro. Mae hyn yn gynnydd o'r ganran o 28% a nodwyd y llynedd, a dyma’r trydydd tro yn unig i’r ffigwr hwn fod yn is na 30% ers y cyfnod yn dod i ben 2005-06.

 

·         Roedd 23% o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18. Mae’r ganran hon yn is na’r 24% a nodwyd y llynedd. Mae'r ffigur wedi bod rhwng 21% a 23% am y rhan fwyaf o'r cyfnodau amser ers diwedd y 1990au.

 

·         Roedd 19% o bensiynwyr Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18. Mae hyn yn llai na’r 20% a nodwyd y llynedd ac mae'n parhau i fod yn is na'r ganran tua chanol a diwedd y 1990au.

 

·         Roedd byw ar aelwyd heb waith yn cynyddu'r tebygolrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio a phlant.

 

·         Roedd plant oedd yn byw mewn teuluoedd unig riant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r rhai a oedd yn byw ar aelwydydd gyda phâr.

 

·         Roedd pobl a oedd yn byw ar aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r rhai lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig gwyn.

 

·         Roedd byw ar aelwyd lle'r oedd rhywun ag anabledd yn cynyddu'r tebygolrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion oedran gweithio a phlant ond nid ar gyfer pensiynwyr.

 

I raddau helaeth, mae menywod, plant, pobl hŷn a phobl o aelwydydd incwm is i gyd yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a bysiau penodol am eu teithiau dyddiol. Felly, mae buddsoddi mewn coridorau bysiau dibynadwy o ansawdd uchel yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth, sydd wedi ffafrio ffyrdd a rheilffyrdd yn y gorffennol, sef dulliau a ddefnyddir yn anghymesur gan oedolion gwrywaidd incwm uwch.

 

Ar hyn o bryd, mae menywod a phobl hŷn heb gynrychiolaeth ddigonol o blith y rhai sy'n defnyddio seiclo fel dull teithio, felly nid ydynt yn mwynhau’r manteision iechyd, llesiant ac economaidd sy’n deillio o seiclo. Trwy ddarparu seilwaith diogel, ar wahân o safon uchel a chynyddu argaeledd cost isel beiciau i’r cyhoedd, yn enwedig beiciau â chymorth trydan, bydd seiclo'n dod yn fwy deniadol i'r grwpiau defnyddwyr posibl hyn.

 

Mae rhyddid plant i symud yn annibynnol yn yr awyr agored yn cael ei gyfyngu'n sylweddol oherwydd pryderon diogelwch a thraffig ceir yn ein cymdogaethau. Trwy wella gwasanaethau bws a chynyddu'r dewisiadau ar gyfer cerdded a seiclo, bydd diogelwch ac annibyniaeth plant yn gwella.

 

Bydd y gallu i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy i gyrchu gwaith a gwasanaethau yn helpu pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau ac yn helpu i ddiogelu'r Gymraeg yn y cymunedau sydd mewn perygl. Hefyd, bydd yn gadarnhaol o safbwynt diwylliannol gan y bydd yn galluogi pobl sy'n dibynnu ar gludiant cyhoeddus i fynychu atyniadau a digwyddiadau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Mae diffyg darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a diffyg llwybrau cerdded a seiclo diogel yn cael effaith wael ar bobl mewn ardaloedd gwledig nad oes ganddynt gar. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar dreialu cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus arloesol sy'n ymateb i'r galw, ac mae'r gronfa hon yn gyfle arall i ychwanegu gwerth at yr hyn y gellir ei ddatblygu trwy ffrydiau ariannu eraill.

 

Mae gan bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lefelau sylweddol uwch o weithgarwch corfforol bob dydd na defnyddwyr ceir, yn enwedig trwy gerdded yn ôl ac ymlaen o fannau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae tystiolaeth dda iawn ar gael o fanteision corfforol ac iechyd meddwl uniongyrchol gweithgarwch corfforol, yn enwedig cerdded a seiclo. Er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd, mae'n bwysig denu grwpiau defnyddwyr newydd i'r dulliau gweithredol hyn, trwy ddarparu dewisiadau diogel a chyfleus, gan gynnwys mynediad cost isel i feiciau, a thrwy sicrhau bod y seilwaith yn darparu ar gyfer y teithiau y mae angen iddynt eu gwneud.

 

Mae seiclo yn fath o drafnidiaeth cost isel iawn, a thrwy ddarparu gwasanaethau bws dibynadwy, a llwybrau cerdded a seiclo a chyfleusterau llogi beiciau cost isel, mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a llesol yn galluogi pobl i gymryd rhan lawn yn y farchnad lafur, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â chael mynediad at wasanaethau.

 

Ym mis Chwefror 2019, estynnwyd ein cynllun teithio rhatach ar fysiau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, Fy Ngherdyn Teithio (MTP), i gynnwys pobl ifanc rhwng 19 ac 21 oed. Mae'r cynllun yn gwarantu bod gweithredwyr bysiau sy'n cymryd rhan yn darparu gostyngiad o draean ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael cerdyn MTP am ddim. Roedd yr estyniad hwn yn datblygu’r cynllun MTP a oedd eisoes yn llwyddiannus ac yn boblogaidd a gyflwynwyd ym mis Medi 2015 ar gyfer y garfan iau.

 

Mae gallu plant i symud o gwmpas a chwarae yn yr awyr agored yn annibynnol ac yn ddiogel yn dibynnu ar greu amgylcheddau sy'n eu galluogi i wneud hynny. Mae plant yn dibynnu ar gerdded a seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer hyn i raddau llawer mwy. Mae ein buddsoddiad mewn teithio llesol, gyda phwyslais penodol ar ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth benderfynu pa lwybrau y mae angen eu creu neu eu gwella, yn helpu i greu'r llwybrau sy'n cysylltu plant a phobl ifanc â chyfleusterau addysg a hamdden, ffrindiau, a chyfleoedd gwaith hefyd.

 

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r gyllideb hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion dros 50% (£1.9m yn 2020-21 o gyllidebau trafnidiaeth) a bydd hyn yn annog mwy o blant i gerdded a seiclo i'r ysgol, gyda manteision amlwg i'w hiechyd, eu llesiant a'u cyrhaeddiad.

 

9.0         Deddfwriaeth

 

Mae datganiad ysgrifenedig diweddar yn rhoi Y ddiweddaraf ynghylch y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) (y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel Bil Bysiau (Cymru)) a'r agenda ar gyfer diwygio gwasanaethau bysiau yn ehangach.

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â gwella trefniadau gweithio mewn partneriaeth a elwir yn Gynlluniau Partneriaeth Cymru; masnachfreinio; a gwasanaethau bws sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Hefyd, bydd y Mesur yn rhoi trefniadau newydd ar waith ar gyfer rheoli a rhannu gwybodaeth, fel bod gwybodaeth i'r cyhoedd yn fwy hygyrch a dibynadwy, a bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well i wneud trefniadau i fynd i'r afael â newidiadau mewn darpariaeth gwasanaethau.

 

Bwriad y darpariaethau galluogi yw sicrhau bod gan awdurdodau lleol fynediad at gyfres gynhwysfawr o adnoddau wrth geisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau bws yn eu hardal, a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu rhwydwaith bysiau hygyrch, fforddiadwy ac integredig sy'n diwallu anghenion cymunedau Cymru.

 

Bydd y darpariaethau galluogi yn destun prosesau priodol i sicrhau bod cynigion neu gynlluniau sy’n cael eu datblygu o dan y darpariaethau yn gadarn ac yn deg.

 

Bydd yn ofynnol i Gynlluniau Partneriaeth Cymru helpu i weithredu polisïau trafnidiaeth lleol, cael eu datblygu mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau a bod yn destun proses ymgynghori ystyrlon. Er mwyn sicrhau bod cydbwysedd partneriaeth ar waith rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, y bwriad yw sicrhau bod gan Gynlluniau Partneriaeth Cymru ddarpariaethau ffurfiol ar gyfer gwrthwynebiadau, a’u bod yn destun profion cystadleuaeth priodol.

 

Er mwyn sicrhau bod cynigion masnachfreinio newydd yn gadarn, bydd y newidiadau deddfwriaethol yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu hystyried mewn unrhyw gynigion masnachfreinio newydd, a bydd Gweinidogion Cymru yn darparu canllawiau arfer gorau. Y bwriad yw sicrhau bod pob cynnig masnachfreinio yn cael ei ystyried yn drwyadl trwy achos busnes manwl, sy'n destun archwiliad, ac yna ymgynghoriad ffurfiol. Dim ond wedyn y gellir gwneud penderfyniad ar fasnachfreinio.

 

Ar gyfer gwasanaethau bws sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, byddai angen i'r awdurdod lleol sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith cymorth gwladwriaethol a chyfraith gystadleuaeth ac, os yw awdurdod lleol yn penderfynu darparu gwasanaethau, byddai'r un cyfyngiadau cystadleuol a gofynion cofrestru yn berthnasol i’r gwasanaethau ag sy’n berthnasol i unrhyw weithredwr arall.

 

10.0      Rhwydwaith Mannau Gwefru Cerbydau Trydan

 

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru yn 2020 a fydd yn pennu'r cyd-destun ar gyfer ystyried ymyrraeth bellach gan Lywodraeth Cymru yn y broses o ddarparu seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan.

 

Rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru i gynyddu nifer y cyfarpar gwefru cerbydau trydan yng Nghymru. Roedd y dyraniad o £2m yng Nghytundeb y Gyllideb Dwy Flynedd yn cefnogi'r ddarpariaeth o gyfarpar gwefru cyflym ar y rhwydwaith ffyrdd strategol.

 

Mae cwmpas y gwaith hwn wedi'i ehangu bellach i ddenu arian gan y sector preifat ar gyfer cyflwyno cyfarpar gwefru cerbydau trydan mewn gorsafoedd rheilffordd, a chyfarpar gwefru mewn meysydd parcio cyhoeddus. Dylai ehangu cwmpas y cynllun arwain at lawer mwy o osodiadau.

 

11.0      Gwella Ansawdd Aer

 

Cyflwynodd y Datganiad Ysgrifenedig ar Ansawdd Aer a gyhoeddwyd ar 7 Hydref 2019 ddiweddariad cadarnhaol ar ein cynlluniau i leihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn cefnogi dyfodol iachach ar gyfer ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad.

 

Er bod y gostyngiad a nodir mewn crynodiadau NO2 yn newyddion cadarnhaol, fel y nodwyd yn y cynllun NO2 atodol, byddwn yn parhau â'r nod o sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl. Mae hyn yn cynnwys datblygiad parhaus ac ymgysylltiad rhanddeiliaid â’r 'Mesurau Rhagofalus a Ddargedwir ' (PRMs). Mae'r PRMs yn fwy cymhleth na'r terfynau cyflymder 50mya ac maent yn cynnwys Parthau Aer Glân posibl ar yr A470 ac M4 Casnewydd, cau cyffyrdd a gwyriadau amrywiol ar yr M4 ym Mhort Talbot, rhwystrau ansawdd aer ar yr A483 a'r A494 a chyflymu’r gwaith o ddatblygu cyfleusterau parcio a theithio ar yr A470. Er bod y gwaith o ddatblygu'r PRMs wedi dechrau yn 2019, ym mhob achos mae angen cefnogaeth yr awdurdod lleol a'r gymuned ehangach arnynt, ac o ganlyniad, credir ei bod yn debygol y bydd y broses weithredu'n cael ei hymestyn dros y blynyddoedd ariannol nesaf. Felly, mae angen cyllid i barhau i ddatblygu'r PRMs yn 2020-21, a allai gynnwys nifer o ymarferion ymgynghori cyhoeddus a gweithgareddau dylunio arwyddocaol. Gellir ystyried bod methiant i ddangos bod cynnydd yn cael ei wneud wrth eu dylunio a'u gweithredu yn mynd yn groes i ddyfarniad a wnaed gan yr Uchel Lys yn 2017, a oedd yn cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i ddiweddaru’r cynllun NO2 a nodi a gweithredu'r mesurau a oedd yn debygol o helpu i sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl.

 

Yn ogystal â'r Cynllun Gweithredu a'r Mesurau Rhagofalus a Ddargedwir, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu gweithredu nifer o fesurau ategol i helpu i ddarparu mwy o ymwybyddiaeth o'r risgiau iechyd cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu, arddangos data NO2 amser real a gosod arwyddion gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cael eu dylunio trwy gynnal cystadleuaeth Ysgolion Cymru Gyfan. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau, ond bydd yn parhau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Er y bydd yr holl fesurau sy'n gysylltiedig â'r terfynau cyflymder 50mya ar waith erbyn diwedd blwyddyn ariannol gyfredol 2019-20, mae'n bosibl y bydd angen mesurau pellach ar ôl cyhoeddi'r adroddiad monitro nesaf ym mis Mawrth 2020. Rhagwelir y bydd y terfynau cyflymder yn cael eu cadw nes bod lefelau NO2 yn gostwng ac yn aros o dan y terfyn cyfreithiol. Os nodir materion eilaidd ar ôl cadw'r terfynau cyflymder trwy brosesau monitro gan gynnwys diogelwch ar y ffyrdd, sŵn ac amhariad gweledol, mae'n debygol y bydd angen cyllid i ddarparu mesurau lliniaru priodol.

 

12.0      Coridorau Gwyrdd ar Fenter Rhwydwaith Cefnffyrdd Cymru

 

Bydd y Fenter Coridorau Gwyrdd bum mlynedd yn cyflawni yn erbyn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi trwy greu economi gynaliadwy a hyrwyddo llesiant economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol, a gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru.

 

Wrth dargedu camau gweithredu o dan y fenter Coridorau Gwyrdd, nodir ein meysydd blaenoriaeth fel:

 

·         Mynediad i Gymru (i ddechrau, edrych ar gyfleoedd ar y 5 milltir gyntaf o'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd) e.e. A494 (Glannau Dyfrdwy), yr M4 a'r A483.

 

·         Y cefnffyrdd ar hyd y 3 llwybr dynodedig sy'n ffurfio Ffordd Cymru. Yr A55 – Ffordd Gogledd Cymru, yr A470 – Ffordd Cambria a'r A487 – Ffordd yr Arfordir.

 

·         Llwybrau i mewn ac o gwmpas ein prif drefi a dinasoedd mewn safleoedd strategol fel Wrecsam, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, y Drenewydd a Llandrindod.

 

·         Meysydd cyfle eraill:

 

-       Llwybrau sy'n mynd trwy ein Parciau Cenedlaethol, tirweddau dynodedig eraill neu wrth ymyl safleoedd gwarchodedig megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

-       Prosiectau seilwaith ffyrdd mawr newydd neu gynlluniau uwchraddio ffyrdd llai.

-       Rhannau eraill o'r rhwydwaith lle y gallwn roi camau ar waith o fewn rhaglenni gwaith presennol.

 

Mae'r rhan fwyaf o gynigion y fenter yn cael eu cyflwyno trwy ddefnyddio adnoddau presennol trwy raglen gyfalaf Trafnidiaeth neu drwy brosiectau seilwaith ffyrdd a gynlluniwyd.

 

O fewn ein rhaglen gyfalaf, mae prosiectau Coridorau Gwyrdd yn cael eu blaenoriaethu yn erbyn cynlluniau eraill sy'n cyflawni ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd diogel a dibynadwy. Mae cynlluniau 2020-21 yn cynnal lefelau buddsoddi o tua £1.6m ar gyfer prosiectau Coridorau Gwyrdd.

 

Mae amrywiaeth o brosiectau a mesurau eraill yn cael eu datblygu a'u cynllunio ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf gan gynnwys:

 

·         Gwaith wedi’i dargedu i blannu coed a gwella'r dirwedd ar safleoedd Mynediad gan gynnwys plannu bylbiau mewn lleoliadau allweddol.

·         Prosiectau gwella ymylon ffyrdd ar gyfer blodau gwyllt (ac er budd pryfed peillio), ar draws y rhwydwaith.

·         Parhau â'r rhaglen adfer tirwedd i gynnal ansawdd y dirwedd, lleoliadau ar safleoedd Mynediad ac ar draws y rhwydwaith.

·         Adnabod rhywogaethau a chynefinoedd â blaenoriaeth ar y rhwydwaith, a chamau gweithredu i'w hadfer/gwella/cadw (e.e. cynefinoedd pathewod a safleoedd porthiant ystlumod) neu wella cysylltedd â’r dirwedd ehangach.

 

13.0      Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017

 

Roedd y dull o arfarnu dewisiadau trafnidiaeth lle rydym yn ymgymryd â gwelliannau cyfalaf hefyd yn ystyried materion a chyfleoedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol (trwy ganllawiau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017), gan helpu i nodi'r ateb cywir a fydd yn helpu i ddatblygu cymunedau iachach ac amgylcheddau gwell.

 

Buom yn gweithio gyda defnyddwyr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru ar sawl astudiaeth er mwyn helpu i weithredu Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017. Cynhaliwyd dau weithdy Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru poblogaidd, a ddaeth â defnyddwyr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru at ei gilydd i drafod eu profiadau a'u henghreifftiau o arferion gorau. Rydym yn bwriadu sefydlu Cymuned Ymarfer Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru a chynnal mwy o weithdai a sesiynau hyfforddi i ddarparu cymorth parhaus i ddefnyddwyr a sicrhau bod modd rhannu dysgu ac arferion gorau.

 

Rydym wedi nodi themâu allweddol lle mae angen rhagor o gymorth ac arweiniad ar ddefnyddwyr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Mae canllawiau atodol yn cael eu llunio yn ymwneud ag ymgysylltu ac ymgynghori, a sut i gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ystod pob cam o'r broses. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y cynlluniau a fydd yn destun archwiliad Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, a natur yr archwiliad.

 

Rydym wedi ymgorffori'r broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yn ein proses ymgeisio am grantiau trafnidiaeth lleol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau sy'n derbyn cyllid grant Llywodraeth Cymru wedi dangos sut maent yn cyflawni'r nodau a'r amcanion llesiant ac yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio'r pum ffordd o weithio. Byddwn yn parhau i adolygu'r Canllawiau.

 

14.0      Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

 

Cafwyd datganiad ysgrifenedig ar Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ym mis Hydref. Cylch gwaith y Comisiwn yw ystyried yr ystod lawn o faterion sy'n ymwneud â thagfeydd ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru a darparu argymhellion ar ymyriadau i fynd i'r afael â’r sefyllfa. Mae'r dull gweithredu wedi'i nodi yma.

 

Y weledigaeth yw argymell set o fesurau a fydd yn lliniaru tagfeydd mewn ffordd gynaliadwy gan gefnogi llesiant ehangach pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn yr ardal. Nod y Comisiwn yw cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym wedi nodi'n glir ein bod yn parhau i ymrwymo i ddatrys tagfeydd ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru.

 

15.0      Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW)

 

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn arwain gwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol. Cyhoeddodd NICW ei adroddiad blynyddol cyntaf ar 27 Tachwedd. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol y comisiwn, rhai safbwyntiau dros dro a blaenoriaethau ar gyfer ymchwiliad pellach sydd wedi deillio o’r gwaith hwn.

 

16.0      Cyfraniad Trafnidiaeth Cymru

 

Bydd sefydlu Trafnidiaeth Cymru fel ein hasiant cyflenwi arbenigol yn newid manyleb a darpariaeth gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2018, penododd Trafnidiaeth Cymru ei Phartner Darparu Gwasanaethau Rheilffyrdd, Keolis Amey i weithredu contract nesaf Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau o 14 Hydref 2018 ymlaen. Mae hyn yn dod â manteision a chyfleoedd sylweddol, gan gynnwys rhaglen fuddsoddi gwerth £1.9 biliwn gan y gweithredwr sy'n cefnogi ein hamcanion i drawsnewid cymunedau a phobl ar hyd a lled Cymru a'i ffiniau.

 

Mae ystadegau Trafnidiaeth Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y teithiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru wedi cynyddu yn 2017-18, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed. Roedd 31 miliwn o deithiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd naill ai wedi dechrau neu orffen yng Nghymru yn 2017-18 (cynnydd o 1.9% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol). Roedd dros ddwy ran o dair (69%) o'r teithiau hyn yng Nghymru.

 

Bydd ein dull o gynyddu'r newid i drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na defnyddio cerbydau preifat, a hwylusir gan y gwasanaeth rheilffyrdd newydd, yn gwneud cyfraniad mawr at leihau effaith allyriadau nwyon tŷ gwydr cyfatebol a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.   

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r ddarpariaeth er mwyn cyrraedd targedau allweddol:

 

·         Trydaneiddio prif Gledrau’r Cymoedd a lleihau allyriadau carbon ac Ocsid Nitrus o ganlyniad.

 

·         Erbyn blwyddyn pump gofyniad Cytundeb Grant Partner Datblygu’r Gweithrediad (ODP), bydd 100% o'r trydan sy’n cael ei gaffael gan yr ODP yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

 

·         Gostyngiad gofynnol o 25% yn y fasnachfraint ehangach a 60% ym mhrif Gledrau’r Cymoedd o allyriadau carbon uniongyrchol, a 100% o allyriadau anuniongyrchol erbyn blwyddyn pump Cytundeb Grant yr ODP.

 

Hefyd, gall ein dull o gaffael gwasanaethau wneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd y targedau i leihau carbon. Mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru, mae adnodd i fesur allyriadau carbon ar gyfer trafnidiaeth wedi'i ychwanegu at yr Adnodd Mesur Manteision Cymunedol.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn awyddus iawn i gefnogi nodau uchelgeisiol Cymru ar gyfer datgarboneiddio a lleihau allyriadau, ac mae wedi lansio Strategaeth Effaith Carbon Isel i helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n deillio o ddarparu ei gwasanaethau.

 

Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo'r newid i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy trwy:

 

·         Ddarparu seilwaith i gefnogi'r defnydd o gerbydau trydan.

·         Gwella cyfleoedd teithio llesol trwy wella mynediad at orsafoedd a lleoedd storio beiciau er mwyn annog ein teithwyr i seiclo.

·         Lleihau allyriadau rheilffyrdd trwy fesurau effeithlonrwydd cerbydau a thanwydd ac uwchraddio cerbydau presennol dros y 3 blynedd nesaf, a fydd yn helpu i leihau allyriadau hefyd.

 

Trwy drydaneiddio Prif Gledrau’r Cymoedd, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu sicrhau nad yw gwasanaethau ar hyd y llwybrau hyn yn defnyddio unrhyw danwydd diesel, a’u bod yn cyflawni 100% o filltiroedd teithwyr o dan bŵer di-garbon. Mae holl drydan Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gaffael o ffynonellau adnewyddadwy, a'i nod yw sicrhau bod 50% o'r trydan hwn yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru erbyn 2025. Yn ogystal â'r uchod, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i osod paneli ffotofoltäig a goleuadau LED yn ein gorsafoedd.